Gwynedd

Gwynedd

Fy enw i yw Marcus Politis a hoffwn eich croesawu i dudalennau Gwynedd ar wefan Chwaraeon Anabledd Cymru.

Mae gan Wynedd amrediad eang o ddarpariaeth chwaraeon ar gyfer pobl anabl o bob oed, gan gynnwys boccia, pêl-droed, pêl-fasged cadair olwyn, trampolinio, athletau, beicio tandem, nofio, marchogaeth, saethu paralympaidd, saethu VI, gweithgareddau awyr agored, saethyddiaeth a Ffitrwydd Cynhwysol yn ein Cyfleusterau Hamdden.

Rydym yn ffodus iawn o gael yr Ystafell Ffitrwydd yng Nghanolfan Tenis Arfon. Dyma un o’r campfeydd mwyaf cynhwysol trwy Gymru gyfan, ac fe’i hagorwyd yn swyddogol gan y Pencampwr Paralympaidd Matt Skelhon ym mis Mehefin 2011.  Ystyrir mai’r prosiect Herio Eich Ffiniau, a leolir yng Nghoed-y-Brenin, yw’r prosiect beicio mynydd mwyaf cynhwysol yn y Deyrnas Unedig, ac mae Clwb Targed Aer Gwynedd wedi’i gefnogi a’i hyrwyddo’n ffurfiol gan Matt Skelhon a James Bevis fel cyfleuster saethu o’r radd flaenaf . Mae’r Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn yn agored i bobl anabl a chanddynt nam corfforol ac i bobl nad ydynt yn anabl, ac eisoes mae ganddo 30 o aelodau yn mwynhau’r gamp wych hon.

Pa un a ydych yn chwilio am ffordd iach o fyw, cyfle i gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd neu i gadw’n heini, neu’n anelu at allu cymryd rhan yn y dyfodol yn y Gemau Paralympaidd neu’r Gemau Olympaidd arbennig, fe ddylai fod rhywbeth ar eich cyfer chi.

Os ydych yn hyfforddwr neu’n wirfoddolwr, cofiwch hefyd am y cwrs UK Disability Inclusion Training (UK DIT), sy’n galluogi darparwyr hamdden a hyfforddwyr i feithrin ymwybyddiaeth a hyder i gynnig darpariaeth gynhwysol. Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal nifer o weithiau mewn blwyddyn, felly cysylltwch â mi i gael gwybod pryd mae’r nesaf.

Er mwyn helpu clybiau i sicrhau arfer dda a chynnig sesiynau o ansawdd, mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cyflwyno ‘insport’ sydd ar gael i Glybiau, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol (NGB’s) ac Awdurdodau Lleol. Gwobr achrediad pedair haen ydyw (rhuban, efydd, arian, aur). Chwiliwch am logo insport wrth y clybiau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am chwaraeon anabledd yng Ngwynedd fel rhywun sydd am gymryd rhan, fel clwb, fel hyfforddwr, neu fel gwirfoddolwr, mae croeso ichi fy ffonio neu anfon e-bost ataf. (Mae’r manylion cyswllt ar waelod ochr chwith y dudalen hon).

Mae’r wefan hon yn cael ei diweddaru’n aml gyda newyddion, digwyddiadau, a chyrsiau, felly cofiwch gymryd golwg arni’n rheolaidd.

Clybiau

Anheddau Awyr Agored

Clwb Gweithgareddau Awyr Agored i Oedolion gydag anhegion cefnogi

Anheddau Awyr Agored

Beiciau Tandem

Rhai sydd gyda Nam ar eu Golwg.

Beiciau Tandem

Caernarfon Celts

For more information please contact Marcus Politis on 01758 704 109 or Email Marcus

Caernarfon Celts insport Ribbon

Clwb Ieuenctid Anabl Bethesda

Pob anabledd: Parlys Ymennydd, Defnyddwyr Cadair Olwyn Drydan, Defnyddwyr Cadair Olwyn ymarferol.

Clwb Ieuenctid Anabl Bethesda

Clwb Nofio Ankolysing Spondilitis

Mae Clwb Nofio Ankolysing Spondilitis yn arbenigo ar gyfer pobl efo anableddau corfforol.

Clwb Nofio Ankolysing Spondilitis

Clwb Trampolîn Bangoroos (Sesiwn Integredig)

Pob anabledd     Plant Iau      5-14 mlwydd oed        Cost - £3 y sesiwn.

Clwb Trampolîn Bangoroos (Sesiwn Integredig) insport Bronze

Clwb Trampolinio Bangoroos

Mae ar gyfer plant gydag awtistiaeth ac aspergers.

Clwb Trampolinio Bangoroos insport Bronze

Cyfleusterau Chwaraeon Cadair Olwyn / Badminton a Rhwyfo Addasol

Ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn Lleolir cadeiriau olwyn chwaraeon yn: Canolfan Hamdden Maes Glas, Bangor ar gyfer eu defnyddio yn y Cwrt Badminton, ffoniwch 01248 382571  Ar gael yn ogystal yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog.

Cyfleusterau Chwaraeon Cadair Olwyn / Badminton a Rhwyfo Addasol

Dreigiaid Cil

Clwb Boccia

Dreigiaid Cil insport Bronze

Gweithgareddau Awyr Agored

i blant anabl a’r holl deulu

Gweithgareddau Awyr Agored insport Ribbon

Chwilio clybiau:

Yma, allwch addasu eich chwiliad am glwb neu clybiau. Edrychwch am glybiau yn ól camp, anabledd neu pa glybiau sydd ar gael yn eich hardal.



Manylion cyswllt

Marcus Politis
Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru
Cyngor Gwynedd
Swyddfeydd Dwyfor
Ffordd Arglawdd
Pwllheli
Gwynedd

LL53 5AA

Ffon: 01758 704 109

Ebostio Marcus