Chwaraeon

Pêl Droed

Rhaglen Bêl Droed yr Anabl Ymddiriedolaeth CBDC

Mae Ymddiriedolaeth CBDC yn ymroddedig i gyfleoedd cyfartal er mwyn i bob person ifanc allu chwarae pêl droed, waeth beth yw ei ryw, hil neu anabledd.

O ganlyniad, mae Ymddiriedolaeth CBDC wedi ysgrifennu strategaeth yn ddiweddar ar gyfer datblygu pêl droed yr anabl rhwng 2006 a 2010. Bydd prif ffocws y gwaith ar bum maes allweddol: 

1.      Cymryd Rhan 
Rhoi cyfle i chwaraewyr gydag anabledd gymryd rhan mewn strwythurau hyfforddi a chystadlu trefnus a rheolaidd.  Yr amcan allweddol fydd datblygu clwb pêl droed pan-anabledd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. 

2.      Datblygu Strwythurau Clwb a Chystadlu          
Codi safonau’r clybiau presennol a’r clybiau newydd drwy gyfrwng gwell meini prawf a datblygu timau a chystadlaethau newydd ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.

3.      Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr
Recriwtio hyfforddwyr newydd a datblygu’r hyfforddwyr, y swyddogion a’r gwirfoddolwyr presennol i gefnogi’r sefydliad a strwythur pêl droed yr anabl yng Nghymru.

4.      Adnabod a Chefnogi Chwaraewyr Talentog                  
Codi safonau’r chwarae i gefnogi llwyddiant y timau anabledd-benodol cenedlaethol posibl yn y dyfodol.

5.      Proffil ac Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau
Creu ymwybyddiaeth fwy positif o bêl droed anabledd yng Nghymru.       
Sefydlwyd Fforwm Pêl Droed Anabledd Cenedlaethol i hybu a chydlynu datblygiad pêl droed yr anabl yng Nghymru.  Mae aelodaeth o’r fforwm yn cynnwys unigolion o Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru (FfChAC), cynllun Chwaraeon Anabledd Cymru a Chymdeithas Bêl Droed Cymru ymhlith eraill.

             
Mae’r Swyddogion Datblygu Pêl Droed Sirol yn gweithredu’r strategaeth hon mewn partneriaeth â swyddogion Chwaraeon Anabledd Cymru ledled y wlad.  Os ydych am gymryd rhan a dechrau chwarae, gellir cael hyd i fanylion cyswllt y clybiau pêl droed i’r anabl yn y wefan hon a bydd yn cael ei diweddaru’n gyson.  Gallwch fynd i’n gwefan ni hefyd yn www.fawtrust.org.uk .
Ar gyfer hyfforddwyr posibl, rydym yn trefnu ac yn cyflwyno Gweithdy Pêl Droed gydag Anabledd CBDC.  Cysylltwch os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu ac eisiau gwybodaeth bellach.  Hefyd, cadwch lygad am eitemau newyddion, gyda gwybodaeth am gyfleoedd newydd a digwyddiadau i ddod yn y dyfodol.       

Jamie Clewer
Cydlynydd Pêl Droed Cenedlaethol ar gyfer yr Anabl (De Cymru)
01443 228873 est. 20.        Jamie@fawtrust.easynet.co.uk
Ymddiriedolaeth CBDC, Yr Arena Dan Do, Vale Resort, Hensol, Pontyclun, Bro Morgannwg, CF72 8JY
Nicola Tennant
Cydlynydd Pêl Droed Cenedlaethol ar gyfer yr Anabl (Gogledd Cymru)
Nicola@fawtrust.easynet.co.uk 

Chwilio clybiau:

Yma, allwch addasu eich chwiliad am glwb neu clybiau. Edrychwch am glybiau yn ól camp, anabledd neu pa glybiau sydd ar gael yn eich hardal.