Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Rhedwyr Traws Gwlad Cwmbran

Gweithgareddau:

Athletau

Aelodaeth:

Parlys Serebral, Byddar / Trwm Eich Clyw, Anabledd Dysgu, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg), Amhariad Weledol

Cyfeiriad Clwb:
Cwmbran Stadium
Hellys Way
Cwmbran
NP44 3YS

01633 627100 Jef Harwood - 01495 755925


Rhedwyr Traws Gwlad Cwmbran

Mae Harriers Cwmbran yn sefydliad gwirfoddol a reolir gan grŵp o aelodau sy’n cynnwys y Bwrdd Rheoli a’r Pwyllgor dan gyfansoddiad Clwb. Mae Harriers Cwmbran yn aelodau o Athletau Cymru ac, yn eu tro, Athletau’r DG, ac felly’n cael eu rheoli gan reolau’r sefydliadau hyn.

Ein prif amcan yw cefnogi a meithrin y ffurf aml-weithgaredd a geir yng Nghymru / y DG, yn cynnwys Athletau Trac a Chae, Traws Gwlad ac athletau cystadleuol arbenigol eraill. Yn gystadleuol, ni yw un o’r Clybiau Iau gorau yng Nghymru - a’r nod yw gwella mwy fyth.                                                   

Grwpiau Oedran

Mae’r grwpiau cystadlu ar gyfer y dynion a’r merched fel a ganlyn:-

Dan 13 oed, Dan 17 oed, Hŷn        

Dan 15 oed, Dan 20 oed, Feterans

Gall plant / aelodau dibrofiad rhwng 9 ac 11 oed gystadlu mewn rhai cynghreiriau.

Mae’r oedran yn cyfrif ar 1af Medi ym mlwyddyn y gystadleuaeth ac yn para o ddechrau’r tymor trac a chae.  Fodd bynnag, mae’r oedran cystadlu ar gyfer yr athletwyr D20 yn cael ei gyfrif ar 1af Ionawr ym mlwyddyn y gystadleuaeth ac yn cyd-fynd i raddau â rheolau IAAF.  Mae grwpiau oedran yr ysgolion ychydig yn wahanol, gan ddefnyddio ‘blynyddoedd ysgol’ ar gyfer y cystadlaethau.  Mae cystadlaethau ysgol yn aelodau o Athletau Cymru, ond yn cael eu gweithredu’n effeithiol ar wahân.  Os bydd athletwyr yn dangos gallu athletaidd da mewn cystadlaethau ysgol, fe’u hanogir i ymuno â’r Clwb agosaf sy’n perthyn i Athletau Cymru, a chystadlu gydag ef.

Cystadlaethau

Mae timau Harriers Cwmbran yn cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau drwy gydol y flwyddyn ac yn annog cyfranogiad unigol mewn Pencampwriaethau Rhanbarthol a Chenedlaethol.  Yn ystod yr haf, rydym yn cystadlu mewn cystadlaethau Trac a Chae amrywiol yn y Gynghrair ac, yn y gaeaf, mewn cystadlaethau Traws Gwlad.  Mae Rhedeg Ffordd a chystadlaethau arbenigol eraill ar gael drwy gydol y flwyddyn a cheir tymor dan do byr bob blwyddyn yn ystod y gaeaf.                      

Hyfforddiant

Byddwn bob amser yn annog rhieni a chefnogwyr sydd â diddordeb i hyfforddi fel Hyfforddwyr neu Ddyfarnwyr ac efallai y byddwn yn cyfrannu at gost unrhyw gyrsiau.  Gellir cysylltu â Rheolwyr y Tîm Trac a Chae ar 07896 276546.

Am wybodaeth bellach am gemau a chanlyniadau ac i fynd i adran ein haelodau, ewch i’n gwefan http://www.cwmbranharriers.co.uk/

 

insport Ribbon