Cyfeiriadur Clybiau
-
Enw'r clwb:
Dreigiaid Cil
Gweithgareddau:
Boccia
Aelodaeth:
Parlys Serebral, Defnyddwyr Cadair Olwyn Trydan, Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn Ymarferol, Unrhyw Anableddau, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg)
- Cyfeiriad Clwb:
-
Clwb Boccia CIL
Canolfan Hamdden Porthmadog
Porthmadog
LL49 9HW
Mark Roberts 079718 98175
Parlys yr Ymennydd, Defnyddwyr Cadair Olwyn Drydan, Defnyddwyr Cadair Olwyn ymarferol. Pob Anabledd. Anableddau Corfforol (yn gallu cerdded).
Oedolion £2
Cysylltwch â Mark Roberts ar 079718 98175
Gêm tebyg i bowls yw Boccia ar gyfer pobl gyda Pharlys yr Ymennydd. Mae’n gêm y gall pawb ei chwarae i gael hwyl ac mae buddiannau cymdeithasol a buddiannau iechyd i’w cael ohoni ynghyd â blas cystadleuol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am hynny.
Gêm darged yw hon ac mae angen sgil a chraffter yn hytrach na nerth neu gyflymdra a chaiff ei chwarae yn y wlad hon gan ddynion a merched, yr hen a’r ifanc, yn ogystal â rhai heb anabledd. Er mwyn dysgu mwy, cliciwch yma.
Mae’r clwb yn cyfarfod bob dydd Iau (heblaw yn ystod gwyliau’r ysgol) o 11.30am - 12.30pm yng Nghanolfan Hamdden Porthmadog.
Darperir yr holl gyfarpar gan y clwb, gan gynnwys rampiau ar gyfer unigolion gydag anableddau yn aelodau uchaf y corff.
Dim ond £2 y sesiwn yw’r gost i oedolion, felly dowch atom a rhoi cynnig arni!
Ni chynhelir sesiynau yn ystod gwyliau’r ysgol