Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Aml Chwaraeon Dreigiaid Gwent

Gweithgareddau:

Boccia, Cyrlio, Iechyd a Ffitrwydd

Aelodaeth:

Parlys Serebral, Defnyddwyr Cadair Olwyn Trydan, Anabledd Dysgu, Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn Ymarferol, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg), PMLD

Cyfeiriad Clwb:
Mount Pleasant
Pontnewydd
Torfaen

Tony Tibbs 01633 774089

anthonytibbs@live.com.uk


Amdanom Ni

Mae Dreigiau Gwent yn glwb aml-chwaraeon ar gyfer pobl ag anableddau. Fe’i ffurfiwyd yn 1986 pan oedd criw o bobl leol o grŵp PhAB lleol eisiau clwb chwaraeon yn benodol ar eu cyfer hwy.  Ffurfiwyd y clwb ac mae wedi cael ei redeg gan yr aelodau ers y dechrau.  Mae’r aelodau wedi’u cefnogi gan nifer o wirfoddolwyr dros y blynyddoedd, sydd wedi helpu gyda threfniadaeth y clwb ac mae’r rhai gyda diddordeb wedi datblygu i fod yn hyfforddwyr yn y clwb, gan ennill cymwysterau hyfforddi cydnabyddedig. 

Mae’r clwb wedi bod yn cwrdd ar foreau Sul ers y dechrau, yn Stadiwm Cwmbran (heblaw am y cyfnod pan oedd ar gau), ac wedi derbyn cefnogaeth y staff bob amser.

Mae’r clwb yn cymryd rhan mewn chwaraeon amrywiol, sy’n newid yn achlysurol, ond y chwaraeon cyffredinol a gynigir yw Athletau, Badminton, Pêl Fasged, Boccia, Bowlio, Pêl Droed, Ffitrwydd Cyffredinol, Cyrlio’r Oes Newydd, Nofio, Tenis Bwrdd a Chodi Pwysau.

Drwy gydol ei gyfnod mewn bodolaeth, mae’r clwb wedi bod yn aelod o PhAB ac wedi cymryd rhan yng Ngŵyl Chwaraeon PhAB yng Nghymru am flynyddoedd lawer, gan ennill sawl gwobr ar hyd y ffordd.  Mae’r clwb wedi cymryd rhan mewn nifer o Gemau Anabledd mewn mannau fel Delyn a Glannau Dyfrdwy, Camborne, Newton Abbot, Shepton Mallett ac Aylsbury, ond mae’r costau cludiant cynyddol, costau llety a’r baich o ran amser y gwirfoddolwyr wedi cyfyngu ar hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Ond gobeithir dechrau cymryd rhan mewn rhai gemau’n fuan.                                 

Dros y blynyddoedd mae rhai o aelodau’r clwb wedi rhagori yn eu camp ac wedi symud ymlaen o’r clwb i hyfforddiant dwysach, sydd wedi arwain at Fedal Aur Paralympaidd mewn Nofio, Aur Pencampwriaethau’r Byd am Daflu Clwb, Pencampwr Naid Hir Iau Prydain ac mae rhai o’r aelodau’n cael eu targedu ar gyfer Llundain 2012.                                                            

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, daeth swyddogion y clwb yn ymwybodol o’r baich ar ofalwyr plant ieuainc a’r gwrthdaro a all godi os ceir mwy nag un plentyn mewn teulu ond heb anableddau bob un.  Daeth yn bolisi clwb felly bod croeso i frodyr / chwiorydd ymuno â’r clwb dan yr amgylchiadau hyn, cymryd rhan yn y campau a gynigir a derbyn yr un hyfforddiant â phawb arall.                                                                   

Gwybodaeth y Clwb

Mae’r clwb yn cwrdd bob bore Sul rhwng 10.00am a 11.30am.  Mae’r clwb yn addas i bob oedran.  Mae croeso i frodyr / chwiorydd gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb.  Cliciwch yma i weld gwefan swyddogol Chwaraeon Anabledd Dreigiau Gwent

insport Ribbon