Cyfeiriadur Clybiau
-
Enw'r clwb:
Jiwdo (oedolion) - Judokai Caerdydd
Gweithgareddau:
Jiwdo
Aelodaeth:
Trafferthion Ymddygiad, Parlys Serebral, Byddar / Trwm Eich Clyw, Anabledd Dysgu, Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn Ymarferol, Unrhyw Anableddau, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg), Amhariad Weledol
- Cyfeiriad Clwb:
-
Cardiff Central Youth Club
Cardiff
Roy Court 07889 824472
Mae’r clwb hwn yn cynnwys cyfranogwyr abl ac anabl ac yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n 16 oed a hŷn. Mae croeso i oedolion gydag anableddau synhwyraidd, dysgu neu gorfforol fynychu mewn amgylchedd prif lif.
Cynhelir yr hyfforddiant ar nosweithiau Mercher rhwng 7pm a 9pm a nosweithiau Gwener rhwng 10am a 11.30am.
Roy Court yw’r prif hyfforddwr ac mae wedi bod yn hyfforddi pobl ag anableddau mewn jiwdo ers 1984. Ar ddechrau’r 1990'au, chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad CChIC (Cynllun Chwaraeon Integredig Cymru) a gwaith CChIC mewn jiwdo, yn addasu’r rheolau cystadlu fel eu bod yn addas i gynnwys pobl ag anableddau.
Mae chwaraewyr Cymru sydd ag anableddau’n gwisgo’r beltiau safonol ond gyda llinell goch ychwanegol drwy’r canol fel bod clybiau a swyddogion yn gallu dweud os oes gan chwaraewr anabledd.