Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Clwb Aml Chwaraeon Gateway

Gweithgareddau:

Aml-Chwaraeon

Aelodaeth:

Anabledd Dysgu, PMLD

Cyfeiriad Clwb:
Annex
Woodland Road Social Club
Cwmbran

Jan Bennett 01873 880322


Mae Clybiau Gateway’n aelodau o Gymdeithas Mencap, sef cymdeithas a sefydlwyd gan rieni hanner can mlynedd yn ôl er mwyn brwydro dros addysg i’w plant.             

Bellach ceir 700 o Glybiau Gateway lleol oherwydd y galw cynyddol am ffurfio clybiau gweithgarwch hamdden o’r fath.


Darperir nifer o weithgareddau yn y Clybiau Gateway, ble gall pobl fynd a lleisio eu barn yn eu bywydau.     

Ar hyn o bryd, ceir miloedd o gymdeithasau lleol, ac aelodau a gwirfoddolwyr o Glybiau Gateway.  Nod y Clybiau yw gwella datblygiad personol pobl ag anghenion arbennig drwy gynnig gwell cyfleoedd hamdden, drwy hybu dewis personol ac annibyniaeth a thrwy annog eu cyfranogiad llawn, integreiddio a’u cynnwys yn y clwb ac yn y gymuned. 

Mae’r Clwb Mencap yn cynnig gweithgareddau cymdeithasol a gweithgareddau chwaraeon a chorfforol cyfyngedig (oherwydd cyfyngiadau’r adeilad).  Mae’r clwb yn cyfarfod ar nosweithiau Iau rhwng 7.30pm a 9.00pm yn Atodiad Clwb Cymdeithasol a Chwaraeon Heol Woodland, Cwmbran.

Er mwyn canfod mwy am y clybiau Gateway, ewch i’w gwefan