Cyfeiriadur Clybiau
-
Enw'r clwb:
Baraciwdas BLAENAFON
Gweithgareddau:
Nofio
Aelodaeth:
Unrhyw Anableddau
- Cyfeiriad Clwb:
-
14 Beaconsfield Road
Abergavenny
NP7 0DG
01873 831137
kevin.rogers@btconnect.com
Mae wedi bod yn anodd iawn yn ddiweddar i’r clwb ers i Ganolfan Hamdden Blaenafon a’r pwll nofio gau. Dyma gartref y Baraciwdas. Gyda’r nofwyr yn teithio i byllau amrywiol ledled Torfaen oherwydd argaeledd amser priodol yn y pwll ar gyfer sesiynau hyfforddi, roedd yn bwysig bod y clwb yn cynnal yr achlysur blynyddol hwn i ddangos bod y clwb yn dal i weithredu ac yn llawn bywyd.
Mae nifer o nofwyr ieuainc y Baraciwdas yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd trefnus a chystadleuol rheolaidd ac mewn galas clwb ledled de Cymru a Swydd Henffordd. Hefyd, mae nifer o nofwyr y Baraciwdas yn cystadlu yng Nghynghrair Speedo fel aelodau o Dîm Torfaen.
Byddai’r clwb yn croesawu unrhyw nofwyr newydd a fyddai’n hoffi ymuno a datblygu eu sgiliau a’u galluoedd nofio. Rydym yn croesawu nofwyr newydd am dreialon am ddim yn y sesiwn cynharach ar ddyddiau Sul (6.00pm-6:45pm) pan mae’r ddau hyfforddwr ar gael.
Yn ddelfrydol, dylai’r nofwyr fod wedi llwyddo yn nyfarniad Lefel 8 CNA neu uwch.
Am wybodaeth bellach ewch i’n gwefan http://www.webster.uk.net/SportsAndLeisure/WaterSports/BlaenavonBarracudas/Home.aspx