Cyfeiriadur Clybiau
-
Enw'r clwb:
Gladiators Abertawe
Gweithgareddau:
Rygbi
Aelodaeth:
Trafferthion Ymddygiad, Parlys Serebral, Byddar / Trwm Eich Clyw, Defnyddwyr Cadair Olwyn Trydan, Anabledd Dysgu, Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn Ymarferol, Unrhyw Anableddau, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg), PMLD, Amhariad Weledol
- Cyfeiriad Clwb:
-
354 Heol Gwyrosydd
Penlan
Swansea
SA5 7BP
01792 421426
Mae’r Gladiators XV yn dîm rygbi integredig sy’n cynnwys pobl gydag anableddau a’u ffrindiau. Ers y dechrau, ein harwyddair yw "Ffrindiau drwy Chwaraeon" ac rydym wedi adeiladu ein llwyddiant ar ddatblygu gallu, pan mai dim ond anabledd oedd yn cael ei nodi gynt. Daw aelodau’r tîm o amrywiaeth o gefndiroedd ac mae ganddynt amrywiaeth eang o anableddau dysgu, e.e. syndrom Down a pharlys yr ymennydd. Mae gan rai anabledd synhwyraidd neu gorfforol.
Mae’r tîm hŷn yn chwarae rygbi cyswllt llawn gyda sgryms goddefol. Mae’r dewrder a’r ymroddiad a ddangosir gan yr unigolion hyn i oresgyn eu hanableddau a chymryd rhan yng nghamp genedlaethol Cymru’n esiampl i bawb sy’n ymwneud â hwy.
Yn wahanol i’r lefel hŷn, mae’r criw iau’n chwarae amrywiad ar rygbi a elwir yn rygbi tag ac yn lle taclo gwrthwynebwyr yn gorfforol, rhaid tynnu baner felcro o siwmper y chwaraewr arall. Mae Gladiators Abertawe’n chwarae rygbi tag dan reolau a chanllawiau a ddiffinnir gan Gampau’r Ddraig.