Chwaraeon
Athletau
Fy enw i yw Lindsey Bridgeman ac rwy’n Swyddog Datblygu Athletau Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon Anabledd Cymru. Rwyf wedi bod yn y swydd hon ers blwyddyn ac mae’r gwaith yn amrywio o ddatblygu lleol i weithio gydag athletwyr o Safon y Byd.
Gadewch i mi ddweud rhywbeth wrthych chi am athletau.
Camp aml-ddisgyblaeth yw athletau. Mae’n cynnwys dau brif faes, sef trac a chae. Fodd bynnag, oddi mewn i athletau ar gyfer yr Anabl, mae gennym rasio cadair olwyn hefyd, sy’n boblogaidd iawn heddiw, diolch i’r gwaith anhygoel a wnaed yn hybu chwaraeon anabledd gan y Fonesig Tanni Grey-Thompson.
Nid dim ond ar gyfer pobl gydag anableddau corfforol mae athletau, gall unrhyw un eu mwynhau, pa un ai oes genych anhawster corfforol / synhwyraidd neu anabledd dysgu. Ceir sawl maes gwahanol i chi roi cynnig arnynt, fel clwb, discys, siot neu waywffon. Ar y trac, gallwch roi cynnig ar sbrintio, pellter, rasio cadair olwyn neu neidio hyd yn oed. Waeth beth yw eich gallu, mae disgyblaeth ar eich cyfer yn y byd athletau.
Yng Nghymru, rydym yn ffodus iawn o fod â 22 o swyddogion datblygu ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol ledled Cymru. Ar hyn o bryd, rwyf i’n gweithio tuag at sefydlu o leiaf un clwb athletau ym mhob un o’r awdurdodau lleol hyn, felly os ydych eisiau rhoi cynnig ar athletau, bydd clwb yn agos atoch i chi ei fynychu. Ceir cynrychiolaeth gref o athletwyr gydag anabledd yn y Gemau Paralympaidd ac yng Ngemau’r Gymanwlad, a dechreuodd pob un o’r athletwyr o safon y byd mewn clwb lleol yn cael hwyl!!
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar athletau, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu sefydlu eich clwb athletau eich hun, cysylltwch â naill ai eich swyddog datblygu lleol neu â mi.
Lindsey Bridgeman, Swyddog Athletau Cenedlaethol
lindsey.bridgeman@fdsw.org.uk
02920 416774 / 07716 110403
« Yn ôl i rhestru chwaraeon
Chwilio clybiau:
Yma, allwch addasu eich chwiliad am glwb neu clybiau. Edrychwch am glybiau yn ól camp, anabledd neu pa glybiau sydd ar gael yn eich hardal.