Chwaraeon
Badminton / Cadair Olwyn
Cefndir
Cydnabuwyd badminton yn 1996 gan sylfaenwyr y Gymdeithas Fadminton Ryngwladol ar gyfer yr Anabl (CFRA) (Jim Mackay a Jan Kraay, Yr Iseldiroedd). Bellach mae mwy na 30 o wledydd (Gorffennaf 2006) yn aelodau o CFRA ac ychwanegwyd Cymru at y nifer yma yn 2002. Yr amcan i’r Undeb yw datblygu ei Dîm Cenedlaethol ei hun a bod yn rhan o strwythur Prydeinig a hefyd y Gemau Paralympaidd.
Mae’r Ffederasiwn Badminton Rhyngwladol wedi addo cefnogi datblygiad badminton ar gyfer yr anabl ledled y Byd ac maent wedi dangos cefnogaeth wrth i fadminton geisio bod yn rhan o’r Gemau Paralympaidd. Mae’r datblygiadau yng Nghymru wedi dangos bod gan rai o’r chwaraewyr yn y system botensial i gystadlu ar lefel uchel. Y cynllun yw sicrhau bod y chwaraewyr hyn yn cael eu canfod ac yn derbyn cyfle i ddatblygu.
Drwy weithio gyda gwledydd eraill CFRA a datblygu ein strwythurau hyfforddi ein hunain ar gyfer chwaraewyr anabl, amcan UBC yw bod yn gystadleuol ar lefel elitaidd yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Drwy gyflwyno system sy’n adlewyrchu’r llwybr o lefel gyffredin i lefel elitaidd a ddilynir ar hyn o bryd gan athletwyr abl, bydd yr Undeb yn darparu pob cyfle i athletwyr anabl gyflawni eu potensial.
Cyflwyniad
Mae cynllun datblygu Undeb Badminton Cymru wedi cael ei sefydlu mewn ymgais i greu ymwybyddiaeth i ddechrau ac yna gweithredu cynlluniau i ddatblygu cynllun hirdymor syml ac effeithlon i sicrhau cyfleoedd rheolaidd a chyson ar gyfer datblygu chwaraewyr badminton anabl ledled Cymru.
I ddechrau, bydd y cynllun yn canolbwyntio ar yr anableddau hynny a arenwyd gan y Gymdeithas Fadminton Ryngwladol ar gyfer yr Anabl (CFRA) er mwyn cyflawni’r amcan o ddatblygu chwaraewyr ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop a’r Byd ac, yn y pen draw, y Gemau Paralympaidd. Mae’r Undeb yn sylweddoli hefyd, wrth i’r cynllun fynd rhagddo, y bydd raid wrth hyblygrwydd a chefnogi anableddau eraill drwy ddarparu cyfleoedd iddynt brofi’r gamp.
Mae’r Undeb wedi llwyddo i greu mwy o ymwybyddiaeth mewn nifer o feysydd, sef aelodaeth gyfredol (unigolion, clybiau a hyfforddwyr), partneriaid posibl (noddwyr a gwirfoddolwyr), CChC / FfChAC a CFRA.
Datganiad o Fwriad
Er mwyn cyflwyno cynllun badminton strwythuredig ar gyfer datblygu badminton yr anabl yng Nghymru.
Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn parhau i gyd-fynd â model Prydain tra’n cefnogi datblygiad strategol, cyfranogiad cynyddol a chyfleoedd perfformio ar gyfer chwaraewyr Cymru hyd at lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Parhau i ddatblygu llwybr perfformio effeithiol i alluogi i chwaraewyr anabl Cymru brofi a chymryd rhan mewn strwythur hyfforddi a chystadlu o safon.
Y strwythur i gael ei ddatblygu’n barhaus ar y cyd â Phwyllgor Hyfforddi a Thechnegol UBC, Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru (FfChAC) ac, ar lefel Brydeinig gyda Badminton Lloegr (BE), Undeb Badminton yr Alban (SBU) ac Undeb Badminton Iwerddon (BUI), a phwyllgor Badminton yr Anabl PF.
Am rhagor o wybodaeth am Glybiau Anabledd yng Nghymru cysylltwch â:
De Cymru:
Tony Tullett
02920 913804
anthony.tullett@tiscali.co.uk
Gogledd Cymru:
Norman Greenhouse
01248 353600
normang@lonybryn.wanadoo.co.uk
Ysgrifennydd Cyffredinol
Jim Mackay
01492 623845
jim@rjmackay.wanadoo.co.uk
« Yn ôl i rhestru chwaraeon