Chwaraeon
Beicio

Felo Casnewydd yn "Glwb Beicio i Ieuenctid yn Unig" yn Felodrom Cenedlaethol Cymru...
Mae’r hyfforddwyr, y cynorthwywyr a’r rhieni sy’n helpu i gyd yn wirfoddolwyr.
Mae’r clwb yn darparu ar gyfer plant rhwng 8 ac 16 oed, gyda sesiynau hyfforddi’n cael eu cynnal bob wythnos yn defnyddio hyfforddwyr cymwys "Beicio Prydain". Mae cystadlaethau beicio’n rhywbeth cymharol newydd i athletwyr gydag anableddau. Ar ddechrau’r wythdegau, pobl gyda nam ar y golwg oedd y criw cyntaf o athletwyr i gystadlu, a dechreuodd athletwyr gyda pharlys yr ymennydd, ac athletwyr wedi colli aelodau o’u cyrff, rasio yn y Gemau Rhyngwladol ar gyfer yr Anabl yn 1984.
Hyd nes Gemau Paralympaidd 1992, cynhaliwyd y cystadlaethau ar gyfer y gwahanol grwpiau hyn ar wahân. Yna, yng Ngemau Barcelona, bu’r gwylwyr yn dystion i gystadlu dwys yn y rasys trac a ffordd rhwng athletwyr yn y tri grŵp anabledd.
Mae’r cystadlaethau beicio’n cael eu rhannu’n rhai unigol a thîm (grŵp o dri o feicwyr o un wlad). Mae’r athletwyr gyda pharlys yr ymennydd yn cystadlu gan ddefnyddio beiciau rasio safonol ac, mewn rhai dosbarthiadau, beiciau tair olwyn. Mae’r athletwyr sy’n ddall neu gyda nam ar y golwg yn cystadlu ar feiciau tandem gyda chyfaill sy’n gweld, ac maent yn cymryd rhan yn y rasys ffordd a’r treialon amser.
Yn olaf, mae’r athletwyr sydd wedi colli aelodau o’u cyrff a’r beicwyr gyda diffygion symud parhaol yn cystadlu mewn rasys ffordd unigol gan ddefnyddio beiciau sydd wedi’u hadeiladu’n arbennig i ddiwallu eu hanghenion. Cynhwyswyd beicio llaw am y tro cyntaf yng Ngemau Paralympaidd Athen. Mae beicio llaw ar gyfer athletwyr sydd angen cadair olwyn i symud yn gyffredinol fel rheol, neu athletwyr nad ydynt yn gallu defnyddio beic confensiynol neu feic tair olwyn oherwydd anabledd difrifol i ran isaf eu corff.
Cafodd Tîm Paralympaidd PF lwyddiant nodedig yn Athen, gan orffen yn ail yn nhabl cyffredinol y medalau gyda 94 medal.
Ar hyn o bryd rydym wrthi’n sicrhau dau dandem trac i helpu’r beicwyr sydd wedi colli aelodau o’u cyrff, y rhai gyda nam ar y golwg a phlant anabl sy’n gallu cadw cydbwysedd heb gymorth. Gallwn gynnig cyfle i’r rhai sydd wedi colli aelodau o’u cyrff feicio ar ffurf tandem neu ar eu pen eu hunain.
Mae Beicio Cymru’n gwbl ymroddedig i sicrhau bod pob unigolyn yn gallu mwynhau cymryd rhan mewn Beicio ac mae’n annog ac yn cefnogi uchelgais beicio pawb gydag anabledd. Mae chwaraeon beicio ar gyfer yr anabl yn y DG yn agored i gystadleuwyr gwrywaidd a benywaidd.
Sut mae cymryd rhan'
Os oes gennych anabledd ac os hoffech gymryd rhan mewn beicio, cysylltwch â Mr Neil Smith (cyswllt ar waelod y dudalen), a fydd yn falch iawn i’ch helpu gyda’ch nodau.
Beicio Perfformiad
Ar hyn o bryd mae gan raglen Safon y Byd Beicio Cymru sgwad Paralympaidd Anabl llwyddiannus iawn gydag adnoddau ac offer yn cyrraedd yr un safon â gweddill sgwadiau PF.Mae Beicio Cymru’n awyddus i gynyddu aelodaeth beicwyr Cymru o holl raglenni Beicio Prydain a bydd yn ceisio cefnogi unrhyw feiciwr sydd â’r potensial i lwyddo ar y llwyfan rhyngwladol.
Cydlynydd Beicio’r Anabl
Enw: Neil Smith
E-bost:
neilsmith@btinternet.com
« Yn ôl i rhestru chwaraeon