Chwaraeon
Tenis / Tennis Cadair Olwyn
O’i ddechrau di-nod yn ôl yn 1976 yn yr Unol Daleithiau, tenis cadair olwyn yw un o’r chwaraeon cadair olwyn sy’n tyfu gyflymaf erbyn hyn ac fe’i chwaraeir mewn mwy na 90 o wledydd ledled y byd gan fwy na 100,000 o chwaraewyr. Chwaraeir tenis cadair olwyn ar gwrt tenis maint llawn gan ddefnyddio’r un offer a chan gadw at yr un rheolau (ar wahân i’r rheol bownsio ddwywaith, sy’n caniatáu i’r bêl fownsio ddwywaith cyn i chi ei tharo) a system sgorio â thenis ar gyfer pobl abl. Mae hyn yn golygu bod modd ei hintegrieddio’n llawn gyda thenis abl a’i chwarae yn eich clwb tenis lleol gyda chwaraewyr abl.
Mae cadeiriau aliwminiwn / titaniwm hynod ysgafn, gydag olwynion crwm ar gyfer troi’n hawdd yn sicrhau bod y gêm yn gyflym iawn ar lefel perfformiad ac yn gallu bod yn hynod gyffrous i’w gwylio. Mae Taith Tenis Cadair Olwyn y Byd wedi cael ei chynnal ers 1992, yn cael ei noddi gan NEC, ac ar hyn o bryd mae’r Daith yn para am 48 wythnos y flwyddyn gyda mwy na 110 o gystadlaethau mewn 27 o wledydd. Gellir ennill pwyntiau ar gyfer safleoedd byd yn y cystadlaethau hyn ac mae’r Ffederasiwn Tenis Rhyngwladol yn llunio diweddariadau wythnosol am safleoedd y chwaraewyr i gyd.
Cynhelir Cwpan Timau’r Byd (cyfatebol mewn tenis cadair olwyn i Gwpan Davis) yn flynyddol gyda chystadlaethau ar gyfer Dynion, Merched, Plant a Thimau Cwad. Yn olaf, pinacl yr ystol berfformio yw’r posibilrwydd bob pedair blynedd o gymhwyso, cael eich dethol a chystadlu dros eich gwlad yn y Gemau Paralympaidd. Neu, mae tenis cadair olwyn yn gêm gymdeithasol iawn hefyd, a gellir ei chwarae am hwyl ac i hamddena.
Am fanylion pellach, cysylltwch â John Gilgar ar 02920 759123.
« Yn ôl i rhestru chwaraeon
Chwilio clybiau:
Yma, allwch addasu eich chwiliad am glwb neu clybiau. Edrychwch am glybiau yn ól camp, anabledd neu pa glybiau sydd ar gael yn eich hardal.