Chwaraeon
Rygbi Cadair Olwyn
Y gêm
Chwaraeir Rygbi Cadair Olwyn ar gwrt pêl fasged safonol gan ddefnyddio pêl foli. Ceir gôl yn y naill ben i’r cwrt yn mesur 8 metr ar draws. Er mwyn sgorio gôl, mae’n rhaid i chwaraewr gael dwy olwyn dros linell y gôl gyda’r bêl dan reolaeth, naill ai yn nwylo’r chwaraewr neu ar ei lin.
Ceir pedwar chwaraewr mewn tîm o ddosbarthiad amrywiol. Mae’n rhaid i’r chwaraewr sy’n cario’r bêl ei bownsio neu ei phasio bob 10 eiliad. Mae’r tîm yn cael 15 eiliad i fynd allan o’u hanner hwy eu hunain. Unwaith maent yn hanner y gwrthwynebwyr, ni ddylent fynd yn ôl i’w hanner eu hunain gyda’r bêl. Wedyn nid oes cyfyngiad amser ar gyfer sgorio gôl ond dim ond am 10 eiliad all unrhyw chwaraewr fynd i mewn i’r safle o flaen y gôl. Mae hwn yn arwynebedd o 1.75 metr o flaen y gôl.
Mae’r gwrthwynebwyr yn ceisio ennill meddiant o’r bêl, blocio ymosodiadau ar y gôl a gorfodi camgymeriadau gan y chwaraewyr yn ymosod. Caniateir cyffwrdd rhwng cadair olwyn a chadair olwyn, ond nid rhwng person a pherson. Mae’r gêm yn cynnwys pedwar chwarter sy’n 8 munud bob un. Mae’r cloc yn stopio pan fydd y bêl yn mynd allan o’r chwarae.
Pwy all chwarae ?
Mae Rygbi Cadair Olwyn yn gamp ar gyfer pobl tetraplegig neu bobl gyda nam ar ran uchaf y corff. Mae’n agored i bobl o bob oed ac i’r ddau ryw. Os allwch wthio cadair olwyn, gallwch chwarae!
Mae gan bawb ran allweddol i’w chwarae ar y cwrt. Sicrheir hyn drwy ddefnyddio system ddosbarthu’n seiliedig ar allu a chryfder cyhyrau’r fraich a rhan uchaf y corff. Mae’r dosbarthiadau’n amrywio o 0.5 i 3.5 pwynt, gan gynyddu fesul 0.5 pwynt, ac mae’n rhaid i dîm o bedwar sicrhau cyfanswm o 8 pwynt neu lai wrth chwarae. Gyda system ddosbarthu o’r fath yn cael ei gweithredu, gall yr Hyfforddwr neu’r Capten chwarae cyfuniadau amrywiol ar y cwrt.
Os dewisir dau chwaraewr 3.5 pwynt, yna mae’n rhaid chwarae dau chwaraewr 0.5 hefyd er mwyn i’r pedwar chwaraewr sicrhau cyfanswm o 8. Fel dewis arall, gellir defnyddio pedwar chwaraewr 2 bwynt i sicrhau cydbwysedd o ran cyflymdra ac ystwythder yn y tîm. Waeth beth a ddewisir, mae’n rhaid i aelodau’r tîm sydd â phwyntiau uchel ac isel gydweithio fel tîm.
Y chwaraewyr gyda’r pwyntiau uchaf sy’n trin y bêl fwyaf, a’r chwaraewyr gyda’r pwyntiau isaf yn blocio ac yn cadw llygad am dderbyn chwarae ymosodol. Mae gwahanol wrthwynebwyr yn galw am wahanol gyfuniadau ar y cwrt !
Defnyddir Cadeiriau Cwrt arbenigol ar gyfer Rygbi Cadair Olwyn ac maent wedi’u creu’n arbennig ar gyfer y chwaraewr penodol a’i rôl ef ar y cwrt. Ceir dau fath sylfaenol: cadair ymosodol a chadair amddiffynnol. Mae gan y Gymdeithas nifer o gadeiriau sbâr er mwyn i chwaraewyr eu defnyddio i weld a oes ganddynt ddiddordeb yn y gamp ai peidio.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Richard Vowles
Ffôn: 01443 226210
http://www.wwra.co.uk/
« Yn ôl i rhestru chwaraeon
Chwilio clybiau:
Yma, allwch addasu eich chwiliad am glwb neu clybiau. Edrychwch am glybiau yn ól camp, anabledd neu pa glybiau sydd ar gael yn eich hardal.