Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Canolfan Marchogaeth Arbennig Clwyd

Gweithgareddau:

Marchogol

Aelodaeth:

Parlys Serebral, Byddar / Trwm Eich Clyw, Defnyddwyr Cadair Olwyn Trydan, Anabledd Dysgu, Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn Ymarferol, Unrhyw Anableddau, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg), PMLD, Amhariad Weledol

Cyfeiriad Clwb:
Clwyd Special Riding Centre
Llanfynydd
Wrexham
LL115HN

01352 770446

info@clwydspecialridingcentre.org.uk


Canolfan Marchogaeth Arbennig Clwyd

  • Canolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd

Mae Canolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd yn Llanfynydd ger Wrecsam yng Ngogledd Cymru’n elusen gofrestredig yn cael ei rhedeg gan griw o wirfoddolwyr.

Bob wythnos mae’n croesawu mwy na 200 o bobl o bob oed gydag anabledd ac maent yn elwa o’r pleser a’r ysgogiad a geir wrth farchogaeth, gyrru cerbydau neu neidio marchogol. Fel y mae unrhyw un sydd wedi mwynhau cyfle o’r fath yn gwybod, mae dysgu marchogaeth, gyrru cerbydau neu gymryd rhan mewn neidio’n cynnig ysbrydoliaeth a her bythgofiadwy – ar gyfer pobl ag anableddau, mae’r profiad yn fwy arbennig fyth.                                         

Mae’r Ganolfan unigryw hon hefyd yn darparu gwyliau marchogaeth preswyl i grwpiau o bobl gydag anghenion arbennig o bob cwr o’r DG a thramor.  Mae’r Ganolfan hefyd ar gael yn ystod misoedd y gaeaf ar gyfer gwyliau heb farchogaeth i bobl ag anghenion arbennig.