Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Carate’r Fro

Gweithgareddau:

Karate, Chwaraeon Ymladd

Aelodaeth:

Trafferthion Ymddygiad, Parlys Serebral, Byddar / Trwm Eich Clyw, Defnyddwyr Cadair Olwyn Trydan, Anabledd Dysgu, Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn Ymarferol, Unrhyw Anableddau, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg), PMLD, Amhariad Weledol

Cyfeiriad Clwb:
Barry YMCA Hub
Court Rd
Barry

01446 419701

enquiries@valekarate.com


Carate’r Fro

Mae Prif Hyfforddwr Carate’r Fro, Rob Copeland, wedi dechrau ymwneud yn ddiweddar â sawl ysgol sy’n dysgu Carate i blant a phobl ieuainc gydag anableddau ac anghenion ychwanegol. Mae’r dosbarthiadau hyn wedi cael ymateb brwd eithriadol ac mae plant yn eu mwynhau gyda chefnogaeth athrawon a staff cefnogi.  Fel cynnydd naturiol, mae gan Garate’r Fro ddosbarth allgyrsiol ychwanegol unwaith yr wythnos, bob dydd Llun.  Rydym wedi gweld bod carate, o’i ddysgu yn y ffordd gywir gan hyfforddwr profiadol ac amyneddgar, yn gyfrwng gwych i hyfforddi plant gydag anghenion ychwanegol.  O ychwanegu carate at raglen ymestyn gynhwysfawr, mae pob rhan o’r corff yn cael ei ymarfer wrth ymarfer y blociau sylfaenol, ergydion, cicio, gyda’r ochr chwith a’r ochr dde i’r corff yn cael eu gweithio yr un faint.          

Edrychir ar Kihon (y technegau sylfaenol) a Kata (y ffurfiau clasurol o gyfuniadau cyfres) ac ar hyn o bryd, mae’r hyfforddiant yn ddigyswllt gan fod diogelwch yn hollbwysig.  Mae’r dosbarth hwn yn hwyliog, yn gyfeillgar ac yn ddisgybledig.  Gweithgaredd rhagorol i blant a phobl ieuainc gydag anghenion ychwanegol. Ffoniwch ni am sgwrs ac i archebu lle. 6pm bob nos Lun yng Nghanolfan YMCA Y Barri.