Cyfeiriadur Clybiau
-
Enw'r clwb:
CPD Cochion Y Fro
Gweithgareddau:
Pêl Droed
Aelodaeth:
Trafferthion Ymddygiad, Parlys Serebral, Byddar / Trwm Eich Clyw, Anabledd Dysgu, Unrhyw Anableddau, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg), Amhariad Weledol
- Cyfeiriad Clwb:
-
Cadoxton Primary School Sports Hall
Port Road (opposite Tescos)
Barry
CF63 2JS
Phil Prewett 02920 706651
phil4prew@hotmail.com
Diwrnod ac Amser yr Hyfforddi: Iau, 7.30-8.30pm
Lleoliad Ymarfer: Ysgol Gyfun y Bechgyn yn Y Barri
Addas ar gyfer: Anawsterau Ymddygiad, Parlys yr Ymennydd, Byddar / Trwm y Clyw, Anabledd Dysgu, Pan-Anabledd, Anabledd Corfforol (symud), Nam ar y Golwg (mae gan Gaerdydd glwb pêl droed penodol ar gyfer plant â nam ar y golwg).
Cysylltwch â Mike Williams neu Jenny Conibear ar 01446421564 i drafod priodolrwydd y cyfleoedd a gynigir.
Disgrifiad Byr: Mae CPD Cochion Y Fro’n darparu cyfleoedd diogel, hwyliog, hamdden, cystadleuol a strwythuredig mewn pêl droed i blant ag anableddau, yn cael eu cyflwyno gan hyfforddwyr cymwys. Yn ddiweddar, sefydlodd yr hyfforddwyr gwirfoddol, y cynorthwywyr a Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru y clwb Pêl Droed Anabledd newydd hwn, a dderbyniodd gyllid sefydlu gan gynllun Cist Gymunedol Sportlot.
Mae CPD Cochion Y Fro’n ymarfer bob wythnos ac yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn siroedd eraill. Hefyd, mae’r clwb wedi teithio i gefnogi cystadlaethau a gwyliau a drefnwyd gan CPD eraill i’r anabl. Yn y gwyliau hyn, mae’n braf iawn gweld y plant yn mwynhau eu pêl droed ac yn sgorio goliau. Mae’r clwb yn edrych ymlaen at chwarae mewn cynghrair newydd i glybiau, a sefydlir y flwyddyn nesaf mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth CBDC.
Os hoffech glywed mwy am ymuno â’r clwb ac am y dyddiadau hyfforddi a’r gemau, cysylltwch â’r rhifau uchod neu â Linda Ruston yn Chwaraeon Anabledd Cymru ar 01446 704728 neu 07725446493
Os ydych yn hoffi pêl droed, ymunwch â ni!