Addysg a Hyfforddiant i Hyfforddwyr
Cyflwyniad i Addysg a Hyfforddiant FfChAC
Croeso i adran Addysg a Hyfforddiant NEWYDD gwefan Chwaraeon Anabledd Cymru.
Fel hyfforddwyr, gwirfoddolwyr neu swyddogion proffesiynol yn y byd chwaraeon, mae dysgu am yr hyn yr ydym yn ei wneud a sut i’w wneud yn effeithiol yn siwrnai ddiddiwedd, ac yn bleser (h.y. gwylio ein perfformwyr yn cyrraedd eu llawn botensial) ond hefyd yn amhleserus (h.y. arferion heb weithio cystal â’r disgwyl)! Rydym yn dysgu mewn mannau amrywiol: bob tro rydym yn meddwl am yr hyn rydym wedi’i wneud, a beth gafodd yr unigolion yn ein gofal allan o’r sesiwn; neu pan rydym yn gweld rhywun yn cyflawni rhywbeth yr ydym wedi’i gyflawni ein hunain, ond mewn ffordd wahanol, newydd a chyffrous i’r perfformiwr; neu pan rydym yn siarad â hyfforddwyr, gwirfoddolwyr neu swyddogion proffesiynol eraill mewn chwaraeon ar y llinell ochr am faterion a sialensau maent wedi’u hwynebu, a beth oedd yr atebion. Nid yw dysgu am ein camp yn dod i ben wrth i ni ennill ein cymwysterau, nac yn bodoli ar lefel gyson wedi i ni ein hunain orffen cymryd rhan fel perfformiwr; mae’n rhywbeth sy’n esblygu, yn aeddfedu ac yn herio, bob cam drwy gymryd rhan.
Felly mae ychwanegu rôl addysgu a hyfforddi benodol oddi mewn i Chwaraeon Anabledd Cymru’n gam cyffrous. Bydd yn galluogi i bawb sy’n ymwneud â chwaraeon anabledd ddal ati i herio ein ffyrdd o feddwl a’n harferion drwy gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant, ac annog y rhai nad ydynt yn ymwneud â chwaraeon anabledd ar hyn o bryd i fod yn fwy proactif wrth gynnwys eu darpariaeth a’u harferion. Hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a swyddogion proffesiynol yw asgwrn cefn chwaraeon ac mae gennym i gyd brofiadau gwerthfawr i’w rhannu a’u defnyddio, ar sail yr hyn yr ydym yn ei wneud yn ddyddiol / wythnosol / misol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cwestiynau neu sylwadau ynghylch addysg a hyfforddiant, anfonwch e-bost at Fiona Reid (ymgynghorydd addysg a hyfforddiant Chwaraeon Anabledd Cymru) : fiona.reid@fdsw.org.uk