Hyfforddi

Hyfforddi

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn ddyledus i weithgareddau da a cefnogaeth ein gwirfoddolwyr ac hyfforddwyr. Pu'n ai rydych yn hyfforddwr profiadol neu a diddordeb bod yn arweinydd neu hyfforddwr lefel 1 allwn helpu chi ddewis y cyfeiriad gorau.

Cysylltwch a ni, os gwelwch yn dda, os hoffech rhagor o fanylion.

Information

Mae gan Chwaraeon Anabledd Cymru llawer o gyfleoedd i hyfforddwyr i ymuno a'n gweithlu mewn amrediad o gampau ac/ neu unrhyw o'r grwpiau niweidiau gwahanol.

Mae’r cyrsiau a gynhelir gan Chwaraeon Anabledd Cymru’n tueddu i berthyn i un o’r tri chategori isod:

  • Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd – Cwrs delfrydol ar gyfer y rhai newydd i fyd chwaraeon anabledd. Cyflwyniad i faes anabledd yn edrych yn gyffredinol ar derminoleg, profiadau grwpiau o anabledd, edrych yn fyr ar beth yw anabledd a sut effeithir ar unigolion, yn cynnwys edrych yn gyffredinol ar y ddeddfwriaeth fwyaf diweddar.         
  • Cyrsiau Chwaraeon-Benodol – Cyrsiau a gynhelir gan Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol sy’n darparu lefel benodol o hyfforddiant ar gyfer pob camp.  Nid yw’r cyrsiau hyn yn anabledd-benodol o angenrheidrwydd ond efallai fod gan rai cyrff rheoli fodiwl anabledd.    
  • Hyfforddiant Anabledd-Benodol – Ar hyn o bryd ceir cyfleoedd hyfforddi sy’n darparu gwybodaeth a chyfarwyddyd penodol ynghylch gweithio gydag athletwyr Byddar / Trwm Eu Clyw a chwrs tebyg ar gyfer hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phobl gyda nam ar y golwg.  Mae’r cyrsiau hyn yn rhoi cyfle i hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ddeall y rhwystrau penodol a wynebir gan bobl y byd chwaraeon sydd â’r namau hyn ac yn darparu cyfarwyddyd ymarferol ynghylch sut i addasu’r gweithgareddau a’r dulliau hyfforddi i’w gwneud yn briodol ac yn gyfleus i bawb.                                                                            

Hefyd mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol fel bo'r campau amrywiol yn gallu sicrhau bydd llawer o gyfleoedd i wella eich safonau hyfforddi a sgiliau. Yr ydym hefyd yn cyd-weithio a'r asiantaethau chwaraeon anabledd wahanol i ddarparu hyfforddiant anabledd penodol (e e Hyfforddiant Ymwybyddiath Amhariad Weledol).

Mae’r Cyngor Chwaraeon wedi lansio ei wefan ei hun yn benodol ar gyfer darparu cyfarwyddydCurling Elite a chefnogaeth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn hyfforddwr neu wella ei sgiliau hyfforddi presennol. Beth am roi munud o’ch amser i fynd am dro i’r safle ac i weld sut allwch chi gymryd rhan bellach mewn hyfforddi - www.hyfforddiantcymru.com

Am wybodaeth am y cyrsiau hyfforddi sydd i ddod, cliciwch ar y cyswllt isod:         

Cyrsiau Hyfforddi

Addysg Hyfforddwyr ac Hyfforddiant

Profile

Hannah Thomas

Myfyrwraig 19 mlwydd oed

Rwyf yn fyfyrwraig datblygu chwaraeon ac hyfforddi HND. Fel rhan o'r cwrs, mae angen i fi gael profiad mewn chwaraeon anabledd. Cysylltais â swyddog datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru yn fy'n ardal a ces wahoddiad ganddi i gymryd rhan mewn rhai o'r gweiothgareddau.

Roedd hyny tua blwyddyn yn ôl a rwyf ddim wedi edrych yn ôl ers hyny. Rwyf yn awr yn helpu rhedeg clwb aml-chwaraeon ac hefyd clwb tramplinio ac wedi ennill cymwysterau mewn sawl camp.

Mae'n rhoi cymaint o bleser i chi – rwyf yn gweld unigolion yn datblygu cryfder ac hyder. Mae gwirfoddoli'n gallu bod yn hwyl ac yn llesol ond hefyd bydd y wybodaeth rwyf wedi casglu yn hynod o fuddiol i mi yn fy ngyrfa drwy'r dyfodol.