Cyrsiau Hyfforddi

CYRSIAU PÊL DROED

  • Cynhelir Hyfforddi Pêl Droedwyr gydag Anabledd YCBDC ddydd Llun Hydref 30ain (£20) ar Gampws Cyncoed APCC rhwng 6.30pm a 9.30pm. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Jo Coates ar 02920 873935 neu 07976 056153

  • Cynhelir Hyfforddi Pêl Droedwyr gydag Anabledd YCBDC ar yr 21ain o Dachwedd yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu. Os am archebu lle, ffoniwch Bev Tucker ar 01874 612 034 am fanylion pellach.

NOFIO

  • Mae Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno Hyfforddiant ‘Ymwybyddiaeth o Nofio’r Anabl’. Mae Swyddog Datblygu Nofio RhCT, Craig Napper, yn cynnig cyfle i athrawon nofio fynychu Cwrs Datblygiad Personol Parhaus sydd wedi’i gymeradwyo gan CNA ar gyfer ‘Cynnwys nofwyr gydag Anabledd, pwyntiau dysgu un-i-un a chyfarwyddyd trin maniwal’. Cyflwynir y cwrs gan Diwtor Anabledd CNA, Mostyn Hills, yng Nghanolfan Hamdden Ystrad ddydd Sadwrn Hydref 14eg o 10am ymlaen.  Ac yn fwy na hynny, MAE AM DDIM.  Am wybodaeth bellach, llwythwch yr adnodd a ganlyn: Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Nofio’r Anabl.          

 

CYRSIAU CYFFREDINOL

  • Cynhelir Hyfforddi Perfformwyr Anabl ddydd Mawrth Hydref 31ain (£18.50) ar Gampws Cyncoed APCC rhwng 6.30pm a 9.30pm. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Jo Coates ar 02920 873935 neu 07976 056153

  • Sut i Hyfforddi Pobl Anabl Mewn Chwaraeon – Canolfan Chwaraeon Ystradgynlais ar yr 22ain o Dachwedd, 6-9 pm.  Os am archebu lle, ffoniwch Bev Tucker ar 01874 612 034 am fanylion pellach.